Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Mai 2019
Amser:
09.22 -
12.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5518
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Jayne Bryant AC (yn lle Jack Sargeant AC) |
Tystion: |
Jeff Cuthbert, Police and Crime Commissioner for Gwent and Chair of the All Wales Policing Group Matt Jukes Allison Hulmes, British Association of Social Workers (BASW) Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC; roedd Jayne Bryant AC yn dirprwyo ar ei ran.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr yr Heddlu.
2.2 Cytunodd cynrychiolwyr yr Heddlu i ddarparu nodyn ynghylch y sefyllfa bresennol, fel y maent yn ei deall mewn perthynas â datblygiad a gwaith canolfannau diogelu amlasiantaeth.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan BASW Cymru.
3.2 Cytunodd y Cyfarwyddwr i ddarparu nodyn am y materion a ganlyn:
· Tystiolaeth o ran unrhyw ddwysâd o ran gweithgarwch sy’n is na’r trothwy presennol ar gyfer defnyddio’r amddiffyniad cosb resymol i weithgarwch yr ystyrir ei fod yn ymosodiad
·
Ymwneud BASW Cymru hyd yn hyn
â’r gwaith o ddatblygu’r Bil
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Diolchodd y Cadeirydd i Senedd Ieuenctid Cymru am ei gyfraniad at waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau.